Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 700,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 19,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 96 meddygfa a 78 gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a 145 fferyllwyr Gogledd Cymru.
Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.
Cysylltu
- Address
- Ysbyty Gwynedd
- Penrhosgarnedd
- Bangor
- Gwynedd
- LL57 2PW
- Contact Number
- 01248 384384
Pennaeth Ffiseg Ymbelydredd
Accepting applications until: 05-Nov-2025 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 05-Nov-2025 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Cyfeiriad
- Ffordd Sarn
- Tref
- Bodelwyddan
- Cod post
- LL18 5UJ
- Major / Minor Region
- Gwynedd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £92,713 - £106,919 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8d)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ffiseg Feddygol
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Oherwydd ymddeoliad deilydd y swydd, mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain, rheoli a datblygu gwasanaethau a staff yr Adran Ffiseg Ymbelydredd yn Adran Ffiseg Feddygol Gogledd Cymru. Mae’r adran hon yn cefnogi gweithgareddau ymbelydredd ïoneiddio a gweithgareddau ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio byrddau iechyd Gogledd Cymru, yn bennaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae’r adran yn rhoi cyngor a chymorth gwyddonol arbenigol ar gyfer diogelwch ymbelydredd cyffredinol, yn ogystal ag i staff sy'n ymgymryd â gwasanaethau clinigol, mewn adrannau radioleg a chardioleg ddiagnostig ac ymyriadol, ac i ddefnyddwyr ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio ledled Gogledd Cymru gyfan.
Advert
· Cyfarwyddo a rheoli'r gwasanaethau gwyddonol, technegol a chlinigol arbenigol iawn a ddarperir gan yr Adran Ffiseg Ymbelydredd ledled gogledd Cymru, gan gynnwys datblygiad strategol a gweithio i lefel uchel yn annibynnol;
Yn cynghori ar agweddau gwyddonol cyfarpar ymbelydrol, gan gynnwys dylunio cyfleusterau, caffael, comisiynu, rheoli ansawdd cyfarpar hynod gymhleth (hanfodol i ddiagnosis a thriniaeth cleifion), gan gynnwys defnydd diogel ac optimaidd o ymbelydredd a datblygiadau yn y dyfodol.
Rhannu gwybodaeth a chymorth gwyddonol arbenigol â staff sy'n ymgymryd â gwasanaethau yn ymwneud â diogelu rhag ymbelydredd, ffiseg radioleg ddiagnostig, a ffiseg ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yn gyfrifol am reolaeth weithredol yr Adran Ffiseg Ymbelydredd, gan gynnwys:
Rheolaethol a Sefydliadol
• Ymgysylltu â'r Pennaeth Ffiseg Feddygol a phenaethiaid isadrannau eraill o fewn Ffiseg Feddygol mewn cyfarfodydd misol a chynhyrchu adroddiadau perfformiad a'u huwchgyfeirio.
• Rheoli staff yr Adran, gan gynnwys llwyth gwaith a dyrannu gwaith, cynnal arfarniadau a bod yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol, materion absenoldeb, cynllunio'r gweithlu a recriwtio.
• Rheoli cyllideb yr adran ffiseg ymbelydredd, yn unol ag arfer yr Adran, gan awdurdodi gwariant ar gyfer prynu cyfarpar, cynnal a chadw ac atgyweiriadau a nodi meysydd posibl ar gyfer cynhyrchu incwm.
• Darparu gwasanaeth cynllunio strategol o ran agweddau gwyddonol a thechnegol y gwasanaeth
• Cynorthwyo'r Pennaeth Ffiseg Feddygol i reoli'r gwasanaeth Ffiseg Feddygol ehangach. Darparu cymorth penodol wrth adolygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth gyda'r Byrddau Iechyd eraill, cynhyrchu incwm, trefniadau rheoli ansawdd a rheoli risg.
Diogelu rhag Ymbelydredd
• Fel prif arbenigwr diogelu rhag ymbelydredd mewn radioleg ddiagnostig, bydd deiliad y swydd yn cael ei benodi'n Gynghorydd Diogelu rhag Ymbelydredd i'r Bwrdd Iechyd yn unol â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 2017, Rheoliad 14, gan ddarparu cyngor arbenigol annibynnol ar ddiogelu rhag ymbelydredd i'r Prif Weithredwr, uwch reolwyr ac eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau diogelu rhag ymbelydredd a chanllawiau cysylltiedig.
• Cysylltu ag arolygwyr statudol e.e., Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru). Rhoi cyngor ac arweiniad i Uwch-reolwyr mewn ymateb i argymhellion arolygiadau.
• Yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu cymorth diogelu rhag ymbelydredd (ïoneiddio ac nad yw'n ïoneiddio) a ddarperir gan yr Adran Ffiseg Feddygol, gan gynnwys cynnal hyfforddiant parhaus i staff Ffiseg Feddygol eraill i gyflawni dyletswyddau cynghori diogelu rhag ymbelydredd i fodloni rhwymedigaethau rheoleiddio'r Bwrdd Iechyd.
• Cymryd rhan flaenllaw ar Bwyllgorau Diogelu rhag Ymbelydredd y Bwrdd Iechyd, gan gyflwyno eitemau a phapurau ar yr agenda, gan gynnwys crynodebau ac adroddiadau blynyddol i'r Bwrdd Iechyd.
• Rhoi barn wyddonol feirniadol ar ddigwyddiadau yn ymwneud ag ymbelydredd a chynghori yn ôl yr angen.
• Goruchwylio Asesiadau Risg Ymbelydredd (IRR17, Rheoliad 8) ar gyfer gweithgareddau ymbelydredd newydd ac wedi'u haddasu, gan gynnwys darparu cyngor ar ddylunio, cysgodi a diogelu rhag ymbelydredd ar gyfleusterau newydd ar gyfer cyfarpar ymbelydredd.
• Rhoi cyngor arbenigol i Reolwyr Prosiectau ar y gofynion amddiffyn rhag ymbelydredd ar gyfer cynllunio ystafelloedd ymbelydredd newydd neu wedi'u haddasu, cynnal asesiadau risg cymhleth iawn a defnyddio gwybodaeth fanwl am reoliadau a chanllawiau
Ffiseg Ymbelydredd Ïoneiddio
• Bod yn gyfrifol am gefnogi staff meddygol a staff eraill sy'n defnyddio cyfarpar ymbelydredd ïoneiddio, gan gynnwys rhoi cyngor gwyddonol ar yr holl gyfarpar delweddu (e.e., CT, gosodiadau sefydlog a symudol ar gyfer radiograffeg a fflworosgopi, delweddu digidol a radiograffeg gyfrifiadurol, cyfarpar pelydr-X deintyddol).
• Darparu mewnbwn gwybodaeth wyddonol arbenigol i gynllunio busnes ar gyfer caffael eitemau cyfalaf mawr (>£1M). Cynghori ar ddewis, prynu a dylunio ystafelloedd. Goruchwylio gosod a chomisiynu cyfarpar delweddu newydd sy'n cydymffurfio â Rheoliadau diogelwch statudol a chanllawiau Cenedlaethol cymeradwy.
• Bod yn arbenigwr diogelwch rhag ymbelydredd blaenllaw mewn radioleg ddiagnostig. Bydd deiliad y swydd yn cael ei benodi'n Arbenigwr Ffiseg Feddygol i'r Bwrdd Iechyd (a sefydliadau prynu eraill) yn unol â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017, fel y'u diwygiwyd yn 2024, ym maes radioleg ddiagnostig, gan ddarparu cymorth a chyngor gwyddonol arbenigol i staff clinigol mewn perthynas ag amddiffyn cleifion.
• Darparu cyngor arbenigol sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ar gyfer ceisiadau ymchwil clinigol, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol i bennu dogn ymbelydredd perthnasol a lefelau risg ar gyfer cyfranogwyr mewn treialon clinigol, yn unol â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017.
• Sicrhau y darperir cymorth ffiseg arbenigol i'r Timau Optimeiddio Delweddau Radioleg, fel yr argymhellir gan ganllawiau cenedlaethol ac a gymeradwywyd gan y rheoleiddwyr.
Ffiseg Ymbelydredd Ïoneiddio
• Bod yn gyfrifol am y cymorth a ddarperir i staff meddygol a staff eraill mewn adrannau lle defnyddir ffynonellau ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio (gan gynnwys: Laserau, ymbelydredd uwchfioled, MRI a sgan uwchsain).
• Sicrhau bod gwybodaeth wyddonol arbenigol yn cael ei darparu a'i fewnbynnu i’r cynllunio busnes ar gyfer caffael eitemau cyfalaf. Cynghori ar ddewis, prynu a dylunio ystafelloedd. Goruchwylio gosod a chomisiynu cyfarpar nad ydynt yn ïoneiddio. Mae hyn yn cynnwys asesu perfformiad, calibradu, dosimetreg a diogelwch cyfarpar a'i amgylchedd a chydymffurfiaeth â Rheoliadau diogelwch statudol a chanllawiau Cenedlaethol cymeradwy.
Datblygu Polisïau a Gwasanaethau
• Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr is-adran yn defnyddio'r system ansawdd berthnasol, e.e. trefnu cyfarfodydd adolygu ar gyfer rheolwyr tîm, cynnal archwiliadau mewnol, adolygu boddhad cwsmeriaid ac ati.
• Bod yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau a datblygu a gweithredu gweithdrefnau gweithredu o fewn y Gwasanaeth.
• Cynghori Uwch-reolwyr ar gynnwys polisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd ynghylch defnyddio ymbelydredd ïoneiddio ac nad yw'n ïoneiddio
• Cynghori Uwch-reolwyr y Bwrdd Iechyd, rheolwyr adrannol, Goruchwylwyr Diogelu rhag Ymbelydredd a Goruchwylwyr Diogelu Laser ar gynnwys gweithdrefnau sy'n ymwneud â chysylltiad meddygol (diogelwch cleifion) a rheolau diogelwch lleol (diogelwch staff ac eraill) a newidiadau iddynt.
Addysgu a Hyfforddi
• Goruchwylio gwyddonwyr clinigol a thechnolegwyr dan hyfforddiant ar gynlluniau hyfforddi cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gyda dyletswyddau penodol i weithredu fel goruchwyliwr hyfforddi gogledd Cymru ar gyfer Gwyddonwyr Clinigol mewn Diogelu rhag Ymbelydredd
• Datblygu a darparu darlithoedd ar lefel ôl-raddedig a chymryd rhan yn y broses asesu ym meysydd ffiseg ymbelydredd Feddygol.
• Trefnu a chyflwyno hyfforddiant arbenigol i staff meddygol, gwyddonol, radiograffig a thechnegol ar sut i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio a meysydd rheoleiddio priodol eraill yn ôl yr angen.
Ymchwil a Datblygu
• Darparu ffocws ac arweinyddiaeth ar gyfer ymchwil a datblygiadau ym maes diogelu rhag ymbelydredd, ffiseg ïoneiddio a ffiseg nad yw'n ïoneiddio yn gymesur ag amcanion clinigol a statudol.
• Arwain datblygiadau strategol yn y gwasanaeth ffiseg ymbelydredd mewn ymateb i arferion clinigol, technoleg a chanllawiau (rhyngwladol) sy'n newid, cysylltu ag uwch weithwyr proffesiynol ymbelydredd ledled y wlad a chymryd rhan mewn pwyllgorau cenedlaethol, grwpiau llywio, gweithgorau
• Arwain cyfeiriad gwyddonol y gwasanaeth ffiseg ymbelydredd. Cynllunio, cydlynu a rheoli gwaith ymchwil a datblygu fel rhan annatod o'r swydd i gefnogi amcanion hirdymor Ffiseg Ymbelydrol ac Adrannau Defnyddwyr.
• Bod yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Sefydlog Arbenigwyr Diogelu rhag Ymbelydredd yr Is-bwyllgor Ffiseg Feddygol a Biobeirianneg, sy'n rhan o Bwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Cymru.
• Rhoi cyngor ar faterion diogelu rhag ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio i bwyllgorau sy'n llywodraethu ymchwil a datblygu yn y Bwrdd Iechyd.
Proffesiynol
• Cynnal cymhwysedd proffesiynol a chofrestru gwladwriaethol trwy astudio parhaus a DPP.
• Cynnal ardystiad fel Cynghorydd Diogelu rhag Ymbelydredd, o dan IRR17, Rheoliad 14.
• Ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a chymryd rhan yn system datblygiad personol ac adolygu'r Bwrdd Iechyd.
O bryd i'w gilydd, cyflawni dyletswyddau priodol eraill yn ôl y gofyn gan y Pennaeth Ffiseg Feddygol.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion llawn.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- MSc mewn ffiseg feddygol neu bwnc cyfatebol
- PhD neu lefel gyfatebol o wybodaeth
- Wedi cofrestru â HCPC fel Gwyddonydd Clinigol mewn maes perthnasol.
- Ardystiad fel Arbenigwr Ffiseg Feddygol mewn radioleg ddiagnostig
- Ardystiad fel Ymgynghorydd Diogelu rhag Ymbelydredd (neu'n gallu cyflawni ardystiad o fewn 12 mis)
- Cofrestriad Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, h.y. ar y Gofrestr Gwyddonwyr Arbenigol Uwch, neu lefel gyfatebol o wybodaeth a phrofiad
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster arwain a rheoli
- Aelodaeth Gorfforaethol o IPEM neu gorff proffesiynol cyfatebol arall
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ac amrywiol yn gweithredu fel Arbenigwr Ffiseg Feddygol mewn ffiseg ymbelydredd diagnostig
- Lefel arbenigol o wybodaeth ar draws yr ystod lawn o weithdrefnau ac arferion gwaith mewn diogelu rhag ymbelydredd, ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio a ffiseg radioleg ddiagnostig.
- Gwybodaeth uwch am weithdrefnau ac arferion clinigol mewn radioleg a'u goblygiadau ar gyfer ymarfer ffiseg ymbelydredd.
- Lefel uchel o ddealltwriaeth o risgiau cleifion a staff sy'n deillio o fethiant cyfarpar a gwallau gweithdrefnol
- Profiad arwain a rheoli timau.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Systemau Rheoli Ansawdd, e.e. ISO 9001.
- Gwybodaeth am dechnegau creu delweddu nad ydynt yn ïoneiddio
Skills and Attributes
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arweinyddiaeth a rheoli gwyddonol a thosturiol cryf
- Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gan gynnwys sgiliau llafar, ysgrifenedig a chyflwyno.
- Yn gallu gweithio ar, a rheoli, ystod amrywiol o weithgareddau cymhleth iawn ar yr un pryd, gan gwrdd â therfynau amser pryd bynnag y bo angen, byddai enghreifftiau'n cynnwys: cyflwyno gwasanaeth clinigol newydd, datblygu dogfennau polisi, goruchwylio prosiect caffael cymhleth, rheoli tîm.
- Yn gwbl gymwys mewn defnyddio pecynnau TG safonol
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
Other
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol ac i gludo cyfarpar prawf trwm
- Y gallu i weithio'n hyblyg i gefnogi'r gwasanaeth
Dogfennau
- Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Saesneg (PDF, 392.4KB)
- Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cymraeg (PDF, 384.4KB)
- OH - Ffurflen Gofynion Swyddogaethol (DOCX, 101.1KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- NHS North Wales - The Right Choice (PDF, 3.6MB)
- Matrics Iaith Cymraeg (PDF, 134.3KB)
- Betsi Cadwaladr Adleoli (PDF, 6.8MB)
- Guidance notes for Applicants v1.2 April 2024-bilingual (PDF, 267.0KB)
- Values and Behaviour Framework (PDF, 2.0MB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julian MacDonald
- Teitl y swydd
- Head of Medical Physics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844042
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!