Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 700,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 19,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 96 meddygfa a 78 gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a 145 fferyllwyr Gogledd Cymru.
Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.
Cysylltu
- Address
- Ysbyty Gwynedd
- Penrhosgarnedd
- Bangor
- Gwynedd
- LL57 2PW
- Contact Number
- 01248 384384
Ymarferydd Cynorthwyol - Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Accepting applications until: 07-Jan-2026 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 07-Jan-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Hamdden Colwyn
- Cyfeiriad
- Parc Eirias
- Tref
- Bae Colwyn
- Cod post
- LL297SP
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun- Dydd Gwener 9:00 -17:00)
Cyflog
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth Niwroddatblygiad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rôl glinigol yw hon sy’n gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd o’r cam cyfeirio nes iddyn nhw gael eu rhyddhau neu gael diagnosis gyda Gwasanaeth Niwroddatblygiadol. Bydd y rôl yn cynnwys cyfrannu at asesiadau o bobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol posibl, gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Advert
Bydd y rôl yn cynnwys cyfrannu at asesiadau o bobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol posibl, gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Bydd deiliad y swydd yn arsylwi mewn ysgolion ac yn darparu ymyriadau a chymorth (gan gynnwys gwaith uniongyrchol gydag unigolion, teuluoedd, grwpiau seico-addysg, gwaith ymddygiad anuniongyrchol a chefnogaeth ôl-ddiagnostig). Bydd gofyn i chi hefyd helpu’r tîm i sicrhau bod y gwasanaeth, y gwaith ymchwil, y gwerthuso a’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn ac wedi cael ei drefnu’n dda, yn ôl yr angen. Byddwch yn gweithio mewn clinig yn ogystal â’r gymuned. Byddwch yn gallu cael goruchwyliaeth unigol reolaidd, goruchwyliaeth gan gymheiriaid, a chyfleoedd Datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y gwasanaeth a thu hwnt.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae gofyn bod gan ddeiliad y swydd lefel uchel o sgiliau cyfathrebu sy’n ei alluogi i weithio gyda phlant sydd ag anawsterau ymddygiad, ac sydd o bosibl ag anawsterau Niwroddatblygiadol neu wedi cael diagnosis o hynny. Efallai y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd hefyd gyfathrebu ag unigolion sydd o bosibl wedi cael diagnosis o anhawster/anabledd dysgu, a’u teuluoedd/gofalwyr a allai fod ag anghenion tebyg eu hunain.
Mae lefelau uchel o sgiliau geiriol a di-eiriau yn ei gwneud yn bosibl i ffurfio perthnasoedd therapiwtig ac ymddiriedus gyda phlant y mae'n aml yn anodd ymgysylltu â nhw oherwydd anawsterau prosesu a deall, neu anawsterau rhyngweithio neu gyfathrebu cymdeithasol oherwydd cyflwr Niwroddatblygiadol.
Mae angen sgiliau cyfathrebu ar ddeiliad y swydd, gan ddefnyddio’r lefel uchaf o sgiliau rhyngbersonol gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol proffesiynol lle mae anghytuno ynghylch opsiynau triniaeth. Bydd angen negodi, sy’n gofyn am gyfleu darnau cymhleth o wybodaeth, gan sicrhau bod darlun llawn a chywir o ymgyflwyniad (presentation) cymhleth y plentyn yn cael ei gyfleu.
Mae angen cyfathrebu mewn awyrgylch emosiynol sy’n gallu bod yn sensitif iawn, gan gynnwys trafod gwybodaeth a allai achosi tramgwydd fel amheuaeth o broblemau diogelu a chyfathrebu â rhieni/gofalwyr ynghylch materion sy’n ymwneud ag esgeulustod neu anallu'r rhieni i gadw eu plentyn yn ddiogel.
Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd gyflwyno rhaglenni/canllawiau blaengar ar gyfer ymddygiad ac ymyriadau teuluol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn aml i ofalwyr/teuluoedd cleientiaid sydd ag ymddygiad anodd. Mae hynny'n gofyn am gyfathrebu'n sensitif, yn enwedig os oes gwrthwynebiad. Gall deiliad y swydd ddarparu, derbyn a chymathu gwybodaeth gymhleth a sensitif iawn yn fedrus, pan fydd rhwystrau sylweddol o bosibl o ran derbyn yr hyn sy’n digwydd. Mae angen crebwyll cymhleth a chyfathrebu'n sensitif yn aml mewn sefyllfaoedd pan ofynnir yn ystod y broses asesu am gyngor ynghylch rheoli ymddygiad/cwsg/trefn arferol ac ati.
Cyfathrebu ar faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant gyda theuluoedd/gweithwyr cymdeithasol/ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â lles y Plentyn.
Rhaid i ddeiliad y swydd ystyried nifer o agweddau cymhleth nad oes, yn aml, atebion/opsiynau amlwg ar eu cyfer. Mae angen dadansoddiad cymhleth iawn a dehongli a chymharu ystod o opsiynau yn aml. Gwelir hyn hefyd os bydd deiliad y swydd yn chwilio am amrywiaeth o opsiynau, fel cartref teuluol y plentyn yn chwalu, lleoliad yn dod i ben, a chydweithio â thîm aml-asiantaeth priodol. Helpu ymarferwyr i gynnal asesiadau arbenigol, manwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth pan fydd angen mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gyda deiliad y swydd yn helpu ymarferwyr i lunio pecynnau gofal ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae asesiadau arbenigol manwl yn cynnwys:
Arsylwi mewn ysgolion; mae’n rhaid i ddeiliad y swydd ddehongli ac asesu ymgyflwyniad plentyn, a gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a oes gan y plentyn anawsterau Niwroddatblygiadol. Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd fod â gwybodaeth am ddatblygiad plant i gefnogi diagnosis gwahaniaethol.
Wrth wneud asesiad sgrinio cychwynnol, mae angen sgiliau dadansoddi a chrebwyll hynod sensitif a medrus wrth brosesu atgyfeiriadau newydd, gan asesu’r wybodaeth a roddwyd a gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth a defnyddio crebwyll pan fydd angen cymorth pellach gan aelod uwch o’r tîm.
Cynnal asesiadau risg ffurfiol oherwydd y posibilrwydd bod amrywiaeth o broblemau eraill fel hunan-niweidio, sy’n galw am sgrinio a chyfeirio a dogfennu priodol. Mae gwahanol dimau’n defnyddio gwahanol adnoddau ar gyfer asesiad sgrinio/cychwynnol, ac mae deiliad y swydd wedi gweithio gyda’r dulliau amrywiol hyn.
Cynorthwyo ymarferwyr iechyd meddwl gydag ymholiadau a chyngor o fewn CAMHS.
Mae hyn yn gofyn am yr un lefel o sgiliau a chrebwyll dadansoddol wrth weithio mewn partneriaeth â’r ymarferydd a’r rhiant i benderfynu ar y nodau i’w gosod. Gall hyn gynnwys gwybodaeth ac arweiniad yn y fan a’r lle, defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad ei hun, a chael amcan o sgiliau’r teuluoedd eu hunain, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ynghylch cyfeirio ac asesiadau pellach i’w cyflwyno i gyfarfodydd tîm, lle bydd deiliad y swydd yn y sefyllfa orau i allu bwrw ymlaen â’r ystod o lwybrau.
Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd gynnal galwadau ymgynghori, gan wneud asesiadau yn y fan a’r lle ar anghenion y galwyr. Gall hyn gynnwys rheoli sefyllfaoedd risg, ffrwyno rhwystredigaeth y rhieni a chydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i leddfu sefyllfaoedd a allai achosi risg i’r galwr ac i eraill ar eu liwt eu hunain oherwydd nad yw uwch aelodau staff ar gael ar unwaith o bosibl.
Sgiliau cyfrifiadurol a TG.
Creu adnoddau priodol o fewn cyllideb gyfyngedig.
Wedi cael ei hyfforddi ar dechnegau tawelu ac ymwahanu, a’r angen i barhau’n ymwybodol o ystum/agosrwydd y corff wrth weithio ochr yn ochr â phlant/pobl ifanc a allai ymddwyn yn heriol.
Trin a thrafod cyfarpar, gan gynnwys symud a thrin bocsys cyfarpar asesu sy’n seiliedig ar chwarae (hynny yw, blychau chwarae ADOS). Hefyd, symud a thrin bocsys o adnoddau/deunyddiau hyfforddi wrth wneud hyfforddiant/gwaith grŵp.
Asesiad corfforol sy’n seiliedig ar chwarae sy’n gofyn am symudiadau corfforol, ar gyflymder y plentyn wrth y bwrdd ac ar y llawr, gyda deiliad y swydd yn addasu symudiadau ei gorff ei hun i ddelio â gofynion y plentyn.
Defnyddio sgiliau chwarae corfforol a chwarae rôl i ddangos i rieni sgiliau ac egwyddorion y rhaglen magu plant ar gyfer y blynyddoedd rhyfeddol.
O dan y rhaglen ofal, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnal asesiadau ar gyfer plant sydd ag anghenion Niwroddatblygiadol, am gynllunio, darparu, monitro a gwerthuso’r gofal angenrheidiol ar gyfer pecyn gofal y plentyn. Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd hefyd greu pecynnau gofal arbenigol ar gyfer y rheini sydd ag anghenion gofal heriol iawn yn ôl staff uwch, o dan oruchwyliaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol uwch aelodau staff.
Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd roi cyngor i deuluoedd/gweithwyr cymdeithasol/gofalwyr, staff cymorth seibiant, ysgolion ar reoli’r gofal a ddarperir i blant sydd ag anghenion cymhleth iawn.
Deall polisïau ar gyfer oedolion agored i niwed (rhieni) sydd ag anableddau dysgu.
Gweithio’n unol â pholisïau diogelu plant a chofnodi, rhoi gwybod a gweithredu bob amser pan fydd hynny’n briodol.
Bydd deiliad y swydd yn datblygu’r gwasanaeth ac yn cyfrannu at y gwaith o weithredu polisïau sy’n effeithio ar y gwasanaeth ehangach, gan gynnwys croesawu, ymarfer a chwilio am ffordd gadarnhaol o symud ymlaen i integreiddio’r tîm yn y tîm Niwroddatblygiadol ehangach.
Cadw at bolisïau a gweithdrefnau'r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth am y ddeddf plant.
Ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddf galluedd meddyliol.
Dangos ei ddyletswyddau ei hun ac ati i fyfyrwyr sydd ar leoliad.
Dangos ei ddyletswyddau ei hun i staff newydd yn y gwasanaeth.
Cymhwyster proffesiynol hyd at NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a phrofiad o weithio ym maes cyflyrau Niwroddatblygiadol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb i sicrhau bod ei holl hyfforddiant gorfodol yn gyfredol, ac i roi sylw i ddiweddariadau asesu risg blynyddol.
Efallai y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd â hyfforddiant datblygiad proffesiynol pellach, gan gynnwys hyfforddiant ar anhwylderau fel Anhwylder Ymlyniad, asesiadau risg CAMHS a hyfforddiant ar ymyriadau a grwpiau ar gyfer teuluoedd.
Bydd yr wybodaeth a ddysgwyd drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei chymhathu mewn ymarfer a phrofiad, er mwyn galluogi deiliad y swydd i gael gwybodaeth arbenigol ar draws ystod o ymyriadau sy’n seiliedig ar theori ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Roedd y maes arbenigol penodol yn cynnwys datblygu dealltwriaeth arbenigol o ffyrdd o weithio ym maes anawsterau Niwroddatblygiadol. Roedd y rhain yn cynnwys hunan-barch, iselder, gorbryder, ffobias a chyfathrebu/ymddygiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddeiliad y swydd helpu ymarferwyr i gynllunio gofal, ac i ddefnyddio gwybodaeth am lwybrau a chanllawiau gyda theori sy’n cael ei llywio gan rieni/gofalwyr.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei sgiliau i ddadansoddi a dehongli ymgyflwyniad ac ymddygiad plentyn, yn enwedig yn yr ysgol. Yna, bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd wneud penderfyniad clinigol ynghylch a yw ymarweddiad y plentyn yn arwydd o gyflwr Niwroddatblygiadol neu a oes unrhyw ffactorau eraill, gan gynnwys anawsterau datblygu posibl neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yna, gofynnir i ddeiliad y swydd gyflwyno’r wybodaeth hon mewn ffordd sy’n cyfrannu at y penderfyniad asesu a diagnostig cyffredinol.
Mae angen sgìl wrth gyfleu i’r rhieni bod digon o wybodaeth asesu i warantu asesiad Niwroddatblygiadol, heb roi’r argraff y bydd diagnosis pendant, gan fod yr holl wybodaeth yn cael ei thrafod fel rhan o’r broses adborth aml-ddisgyblaethol.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo ymarferwyr o fewn y tîm a thimau ehangach ar faterion sy’n ymwneud â meysydd arbenigol penodol, hynny yw Awtistiaeth ac anabledd dysgu, wrth arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau a darparu gwasanaethau. Cynhelir trafodaeth reolaidd drwy gyfarfodydd tîm, sy’n cynnwys yr holl dimau y mae deiliad y swydd yn rhan ohonynt, a goruchwyliaeth. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo gweithwyr proffesiynol wrth ddatblygu llwybrau priodol ac ymateb y gwasanaeth ar sail theori, gan roi cyngor ar anabledd dysgu ac awtistiaeth i arbenigwyr eraill – er enghraifft cydweithwyr band 6 / 7, seicolegwyr sydd newydd gymhwyso – a hefyd i rai nad ydynt yn arbenigwyr, hynny yw rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Bydd deiliad y swydd wedi mynd ati ar ei liwt ei hun i ymgyfarwyddo â’r broses asesu Niwroddatblygiadol a chael profiad ohoni, drwy gysgodi aelodau eraill o’r tîm a defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, a gofyn am oruchwyliaeth a thrafodaeth.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 4 a / neu BTEC Blynyddoedd Cynnar neu NNEB Neu lefel gyfatebol o addysg / hyfforddiant perthnasol Dealltwriaeth o ymchwil a dulliau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth Meddu ar ddealltwriaeth o ddatblygiad ‘normal’ plentyn
Meini prawf dymunol
- Unrhyw hyfforddiant ffurfiol perthnasol o fewn maes Datblygiad Niwrolegol / datblygiad plentyn Dealltwriaeth o rieni cadarnhaol a rheoli ymddygiad plant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweithio gyda phlant / teuluoedd. Profiad o gefnogi pobl ifanc sy’n herio.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad cymunedol.
Tueddryd ag Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i fod yn drefnus iawn Yn gallu bod yn hyblyg yn ymagwedd Gwerthfawrogi pobl ag anghenion ychwanegol Gallu gweithio o fewn lleoliad tîm Dangos gallu i gyflawni gwaith wedi’i gynllunio heb oruchwyliaeth i safon uchel Meddu ar sgiliau cyfathrebu da Sgiliau ysgrifenedig ac ar lafar da Yn gallu cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno Meddu ar ddealltwriaeth o Weithdrefnau Diogelu Plant
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos ymrwymiad i weithio’n gyson yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol; gweithio gyda’n gilydd, gwerthfawrogi a pharchu ein gilydd, dysgu ac arloesi, cyfathrebu’n agored ac yn onest.
Meini prawf dymunol
- Dangos ymrwymiad i weithio’n gyson yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol; gweithio gyda’n gilydd, gwerthfawrogi a pharchu ein gilydd, dysgu ac arloesi, cyfathrebu’n agored ac yn onest.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio o fewn yr ardal ddaearyddol i gyflawni dyletswyddau’r rôl Yn gallu gweithio oriau’n hyblyg i gwrdd ag anghenion y Gwasanaeth Medrus ar gyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
- Y gallu i deithio o fewn yr ardal ddaearyddol i gyflawni dyletswyddau’r rôl Yn gallu gweithio oriau’n hyblyg i gwrdd ag anghenion y Gwasanaeth Medrus ar gyfrifiaduron
Dogfennau
- Bilingual (PDF, 720.3KB)
- occ health (PDF, 648.5KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- NHS North Wales - The Right Choice (PDF, 3.6MB)
- Matrics Iaith Cymraeg (PDF, 134.3KB)
- Betsi Cadwaladr Adleoli (PDF, 6.8MB)
- Guidance notes for Applicants v1.3 Nov25 Bilingual (PDF, 322.5KB)
- Values and Behaviour Framework (PDF, 2.0MB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emyr Morris
- Teitl y swydd
- Team Manager - Neurodevelopment Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856 356
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!






.png)
