Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 700,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 19,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 96 meddygfa a 78 gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a 145 fferyllwyr Gogledd Cymru.
Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.
Cysylltu
- Address
- Ysbyty Gwynedd
- Penrhosgarnedd
- Bangor
- Gwynedd
- LL57 2PW
- Contact Number
- 01248 384384
Nyrs Gofrestredig: Gwasanaeth Rheoli Poen
Accepting applications until: 05-Mar-2026 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 05-Mar-2026 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Cyfeiriad
- Ffordd Llanfair
- Tref
- Abergele
- Cod post
- LL22 8DP
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos (Gweithio dydd Mercher un wythnos a dydd Gwener yr wythnos ganlynnol neu i weddu anghenion y gwasanaeth)
Cyflog
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth Rheoli Poen
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.
Rydym yn dymuno recriwtio Nyrs Gofrestredig ysgogol a phrofiadol. Gallwn gynnig y cyfle i'n Nyrsys wiethio mewn swydd amrywiol, heriol ond gwobrwyol, mewn amgylchedd waith gyfeillgar a chefnogol. Byddwch yn gweithio'n bennaf yn helpu i ddarparu'r Gwasanaeth (Pigiadau) Ymyriadol sydd ar hyn o bryd wedi'i lleoli yn Ysbyty Abergele neu Ysbyty Llandudno. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn Clinigau Poen yn ein hadran(nau) cleifion allanol hefyd, yn trin amrywiaeth eang o gleifion â diagnosis o Boen Cronig.
Bydd profiad o weithio mewn adran adferiad, theatr a/neu gleifion allanol yn fanteisiol.
Fel Nyrs Gofrestredig bydd gennych gyfle i ddatblygu eich sgiliau trwy hyfforddiant o fewn amgylchedd a thîm cefnogol. Mae'r tîm yn ymroddedig i ddarparu strategaethau asesu a thriniaeth arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'n cleifion sydd â phoen cronig. Yma yn BIPBC, bydd gennych amser i roi gofal personol i gleifion i safon y gallwch fod yn falch ohono.
Advert
Clinigol.
Asesu anghenion nyrsio'r claf gan gynllunio, gweithredu a dadansoddi gofal nyrsio er mwyn sicrhau darpariaeth gofal effeithiol i gleifion.
Sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu bodloni drwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, e.e. paratoi offer perthnasol ar gyfer gweithdrefnau archwilio a thriniaethau fel archwiliadau corfforol neu bigiadau / blociau nerfol.
Cyfathrebu gwybodaeth sensitif a chymhleth i gleifion/teuluoedd, yn cynnwys cleifion ag anghenion arbennig/anableddau dysgu neu rwystrau eraill i gyfathrebu e.e. cynorthwyo personél y tîm amlddisgyblaethol o ran cynnal triniaethau gan sicrhau bo'r claf yn deall, cytuno ac yn cael ôl-ofal perthnasol ar lafar ac fel gwybodaeth ysgrifenedig fel taflenni gwybodaeth i gleifion.
Asesu a yw claf yn addas i'w rhyddhau yn dilyn adolygiad meddygol a dechrau trefniadau cynllunio rhyddhau.
Rhoi meddyginiaethau e.e. meddyginiaethau mewnwythiennol, i'r cyhyr/dan y croen, gan sicrhau bod triniaethau'n cyd-fynd â pholisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cynnal triniaethau sy'n ymwneud â gofal claf e.e. techneg aseptig yn unol â gofynion ANTT.
Sicrhau bod y claf wedi ei baratoi yn ddiogel ar gyfer mynd i’r theatr ac archwiliadau neu driniaethau eraill sy'n berthnasol i'r maes gwaith a’i hebrwng oddi yno e.e. epidwral, blociau nerfol neu bloc Radioamledd.
Adnabod sefyllfaoedd brys ac argyfyngau ac ymateb yn briodol iddynt.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Pwrpas y Swydd:
Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth, gan gydweithio ac yn cydweithredu ag eraill er mwyn bodloni anghenion cleifion â'u teuluoedd o fewn y Gwasanaeth Rheoli Poen.
Cynorthwyo wrth reoli a threfnu Clinigau Cleifion Allanol neu Ymyriadol a chymryd rhan mewn addysgu, datblygu a goruchwylio aelodau eraill o staff.
Rheoli/Arwain.
Ø Bydd gofyn i ddeilydd y swydd (yn ddibynnol ar brofiad) gymryd cyfrifoldeb dros grŵp o gleifion/cleientiaid gydag arweiniad a goruchwyliaeth yr unigolyn sydd â chyfrifoldeb parhaus/nyrs mewn gofal.
Ø Cydlynu gwaith y gweithwyr cefnogi gofal iechyd, ymarferwyr cynorthwyol, myfyrwyr, nyrs preceptoriaeth (yn ddibynnol ar brofiad) wrth ddarparu gofal nyrsio.
Ø Goruchwylio gweithwyr cefnogi gofal iechyd, ymarferwyr cynorthwyol, myfyrwyr, nyrs preceptoriaeth (yn ddibynnol ar brofiad) y tîm nyrsio, a chymryd rhan mewn addysg a datblygiad.
Ø Cadw cyfrinachedd gyda gwybodaeth sensitif, h.y. materion staffio, ariannol a chleifion.
Ø Cofnodi eiddo cleifion gan sicrhau bod gweithdrefnau yn cydymffurfio â pholisïau a phrotocolau'r Bwrdd Iechyd.
Ø Cymryd rhan mewn datblygu'r gwasanaeth drwy gyfrannu at ddatblygiad y tîm drwy gyfarfodydd uned/adran, archwiliad ac ymchwil.
Ø Cymryd rhan mewn defnyddio adnoddau corfforol ac ariannol yn effeithlon ac effeithiol. Sicrhau bod offer/storfeydd priodol ar gael yn eich maes cyfrifoldeb dynodedig a'u bod yn gweithio'n ddiogel.
Ø Bod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun ac uwch gyfeirio unrhyw amgylchiadau/sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol i les cleifion neu gydweithwyr i staff uwch.
Ø Sicrhau eich bod yn gwybod am bolisïau staffio ac arweiniad statudol yn ymwneud â'r maes gwaith ac atebolrwydd proffesiynol yn ymwneud â staffio.
Ø Cefnogi rheolwr yr adran drwy gyfrannu at werthusiad ac asesiad risg lefelau staffio ar sail sifft fesul sifft, gan ymgymryd ag unrhyw weithrediadau o fewn lefel eich gallu i ddatrys problemau gyda staffio.
Ø Sicrhau bod pryderon yn ymwneud â staffio'n cael eu codi gyda'r Nyrs mewn Gofal/Metron ac yn cael eu cofnodi ar Datix.
Ø Bod ag ymwybyddiaeth o'r dangosfwrdd niwed a chefnogi'r rheolwr i sicrhau bod camau gweithredu'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r taflwybr y tu allan i'r paramedrau y cytunwyd arnynt, neu uwch gyfeirio ble maent y tu allan i reolaeth leol.
Ø Cymryd rhan mewn achrediad Ward am faes eich hun gan gefnogi rheolwr y ward i sicrhau bod gweithrediadau'n cael eu rhoi ar waith a'u monitro o ganlyniad.
Clinigol.
Ø Asesu anghenion nyrsio'r claf gan gynllunio, gweithredu a dadansoddi gofal nyrsio er mwyn sicrhau darpariaeth gofal effeithiol i gleifion.
Ø Sicrhau bod yr egwyddorion a amlinellir yn yr Hanfodion Gofal yn cael eu hymgorffori mewn arferion dyddiol i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer y cleifion a'r cleientiaid.
Ø Cynnal cofnodion nyrsio cleifion i sicrhau bod gwybodaeth yn gywir a chyfredol.
Ø Sicrhau bod cleifion a gofalwyr/perthnasau’n cael eu cynnwys wrth gynllunio gofal a'i ddarparu.
Ø Sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu bodloni drwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, yn enwedig o ran anghenion gofal parhaus e.e. paratoi offer perthnasol ar gyfer gweithdrefnau archwilio a thriniaethau fel archwiliadau corfforol neu bigiadau / blociau nerfol.
Ø Sicrhau bod cyfathrebu effeithiol yn cael ei sefydlu a'i gynnal â chleifion a gofalwyr/perthnasau, gan gymryd negeseuon cywir dros y ffôn neu gan uwch staff, ac adrodd yr holl wybodaeth amgylcheddol a chleifion i'r nyrs mewn gofal, a bod yn gwrtais bob amser.
Ø Cyfathrebu gwybodaeth sensitif a chymhleth i gleifion/teuluoedd, yn cynnwys cleifion ag anghenion arbennig/anableddau dysgu neu rwystrau eraill i gyfathrebu e.e. cynorthwyo personél y tîm amlddisgyblaethol o ran cynnal triniaethau gan sicrhau bo'r claf yn deall, cytuno ac yn cael ôl-ofal perthnasol ar lafar ac fel gwybodaeth ysgrifenedig fel taflenni gwybodaeth i gleifion.
Ø Asesu a yw claf yn addas i'w rhyddhau yn dilyn adolygiad meddygol a dechrau trefniadau cynllunio rhyddhau. Cysylltu â thimau amlddisgyblaethol fel bo'n briodol i helpu a chynllunio rhyddhad cymhleth.
Ø Rhoi meddyginiaethau e.e. meddyginiaethau mewnwythiennol, i'r cyhyr/dan y croen, gan sicrhau bod triniaethau'n cyd-fynd â pholisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ø Cynnal triniaethau sy'n ymwneud â gofal claf e.e. gosod cathetr, tynnu pwythau, techneg aseptig yn unol â gofynion ANTT.
Ø Sicrhau bod y claf wedi ei baratoi yn ddiogel ar gyfer mynd i’r theatr ac archwiliadau neu driniaethau eraill sy'n berthnasol i'r maes gwaith a’i hebrwng oddi yno e.e. epidwral, blociau nerfol neu bloc Radioamledd.
Ø Adnabod sefyllfaoedd brys ac argyfyngau ac ymateb yn briodol iddynt.
Ø Cymryd rhan yn y gyfrifoldeb o gynnal amgylchedd glân a sicrhau bod yr holl staff yn dilyn cyfrifoldebau glanhau.
Llywodraethu Clinigol
Ø Cymryd rôl ragweithiol o ran rheoli risg h.y. asesu risg, rhoi gwybod am ddigwyddiadau a phethau y bu ond y dim iddynt ddigwydd.
Ø Cymryd pob rhagofal rhesymol ar gyfer amgylchedd diogel o'ch rhan eich hun ac eraill yn unol â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, gan roi gwybod i'r Nyrs mewn Gofal am unrhyw bryderon.
Ø Defnyddio arfer yn seiliedig ar dystiolaeth mewn ymyriadau nyrsio trwy gadw eich gwybodaeth eich hun yn gyfredol yn unol â gofynion Ail-ddilysu NMC.
Ø Sicrhau eich bod chi ac eraill yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau clinigol.
Ø Hyrwyddo rhagoriaeth a gwella safonau gofal nyrsio drwy gymryd rhan mewn archwilio yn y maes clinigol e.e. archwiliadau rheoli haint.
Ø Cymryd rhan i fonitro safonau ac ansawdd gofal nyrsio, trwy feincnodi, archwilio ac ymchwil.
Ø Cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y cyhoedd a chleifion.
Ø Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau pobl.
Addysg a Datblygiad
Ø Gyda'r profiad perthnasol gweithredu fel goruchwyliwr, mentor neu aseswr ar gyfer myfyrwyr neu weithiwr cefnogi gofal iechyd.
Ø Datblygu eich sgiliau a gwybodaeth eich hun a chyfrannu at ddatblygiad eraill.
Ø Datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth eich hun fel y'i hamlinellir yn y fframwaith gwybodaeth a sgiliau a chynllun datblygu personol fel y cytunir arno mewn adolygiadau datblygu proffesiynol blynyddol.
Ø Cymryd rhan mewn cynefino a hyfforddi aelodau newydd o staff nyrsio a myfyrwyr cyn cofrestru, a gweithredu fel mentor/goruchwyliwr/aseswr i fyfyrwyr fel bo angen.
Atebolrwydd Proffesiynol
Ø Cyfyngu ar eich gweithredoedd i'r rheiny rydych yn teimlo eich bod yn gallu ymgymryd â nhw.
Ø Cynnal statws cyfredol ar Gofrestr NMC.
Ø Gweithredu yn unol â Chod NMC a dogfennau arweiniol.
Ø Cadw at Bolisïau a Gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd.
Ø Sicrhau bod y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf gennych a bod yn ymwybodol o faterion proffesiynol.
Ø Cynnal portffolio proffesiynol.
Ø Sicrhau cydymffurfiaeth o ran bodloni gofynion Hyfforddiant Gorfodol y Bwrdd Iechyd ac unrhyw hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rôl e.e. Cynnal Bywyd ar Unwaith.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Gwybodaeth a Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Cofrestredig â'r NMC DU
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ar ôl cofrestru e.e. • POVA; Diogelu Plant; Cynnal Bywyd Canolradd
- • Nyrs Gyswllt Poen neu Astudiaeth Boen
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o fframwaith llywodraethu clinigol, rheoli poen.
- Gweithredu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth.
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth glir o'r contract gofal.
- Y gallu i ddogfennu manylion yn glir ac yn gywir.
- Dealltwriaeth lawn o'r broses gydsynio.
- Sgiliau TG sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o'r polisi adrodd ar ddigwyddiadau.
- Ymwybyddiaeth o Bolisïau Gwybodaeth am bolisi adrodd ar ddigwyddiadau.
Personol/ Agwedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol.
- Gallu gweithio dan bwysau.
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg.
- Gallu i gyflawni gofynion teithio'r rôl mewn pryd.
Dogfennau
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 520.3KB)
- Job Description and Person Specification - Welsh (PDF, 648.3KB)
- Occupational Health FRF (DOCX, 103.3KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- Pam dewis y GIG yng Ngogledd Cymru (PDF, 3.6MB)
- Matrics Iaith Cymraeg (PDF, 134.3KB)
- Betsi Cadwaladr Adleoli (PDF, 6.8MB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 322.5KB)
- Fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad (PDF, 2.0MB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ian Price
- Teitl y swydd
- Clinical Nurse Specialist / Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850062
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch a'r Ysgrifenyddes Poen (Gemma Rowlands) 03000 850062
Dechrau eich cais
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!






.png)
